Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA(4)-03-14:  Papur 1

 

GWYBODAETH GEFNDIR AM OFFERYNNAU STATUDOL GYDAG ADRODDIADAU CLIR

 

 

CLA350 - Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014

 

Gweithdrefn:   Negyddol

 

Gwnaeth Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) ddarpariaeth o ran llunio’r cwricwlwm lleol, y dewisiadau y caiff disgybl eu gwneud, penderfyniad y pennaeth o ran hawlogaeth, a phenderfyniad y pennaeth i ddileu hawlogaeth.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2009 fel bod rhaid i awdurdod lleol gynnwys lleiafswm o 25 o gyrsiau yn ei gwricwlwm lleol, y mae rhaid i 3 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol (rheoliad 2(a)). Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diddymu rheoliadau 5 i 7 o Reoliadau 2009 fel nad oes gofyniad bellach i gyrsiau astudio yn y cwricwlwm lleol, na dewis y disgybl o gyrsiau cwricwlwm lleol, gael gwerth lleiafswm o bwyntiau (rheoliad 2(b)).

 

 

CLA351 - Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:   Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.)  2010 (‘Rheoliadau 2010’).

 

Roedd Rheoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i arolygwyr a gymeradwywyd gan gorff a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru gyflwyno copi o’r hysbysiad cymeradwyo, ynghyd â hysbysiadau a thystysgrifau penodol a nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010. Roedd hefyd yn ofynnol i’r arolygwyr gynnwys, ynghyd â hysbysiadau a thystysgrifau penodol, datganiad wedi’i lofnodi gan yr yswiriwr yn nodi bod cynllun yswiriant penodol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn gymwys i’r gwaith y mae hysbysiad neu dystysgrif yn berthnasol iddo.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu’r gofynion hynny ac yn cyflwyno gofyniad yn eu lle i’r hysbysiadau a’r tystysgrifau perthnasol ddatgan bod copïau o’r hysbysiad cymeradwyo a’r datganiad yswiriant ar y gofrestr a gedwir gan y corff dynodedig (sef Cofrestr Arolgywyr Cymeradwy Cyngor y Diwydiant Adeiladu ar hyn o bryd) mewn perthynas â Chymru.

 

 

CLA352 - Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:   Negyddol

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn pennu'r swm sydd i'w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2013 i 11 Medi 2014 at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986.  Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn  Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/3022 (Cy.306)).